1. Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
2. Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
3. Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.
4. Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.
5. Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.
6. Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.