1. Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o'r cynfyd:
3. Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a'i nerth, a'i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
5. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant:
6. Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau:
7. Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
8. Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw.
9. Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
10. Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
11. Ac anghofiasant ei weithredoedd a'i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
12. Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
13. Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pentwr.
14. Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
15. Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
16. Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17. Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
18. A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
19. Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20. Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i'w bobl?
21. Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;
22. Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
23. Er iddo ef orchymyn i'r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
24. A glawio manna arnynt i'w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25. Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26. Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
27. Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
28. Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
29. Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
30. Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
31. Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
32. Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i'w ryfeddodau ef.
33. Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'u blynyddoedd mewn dychryn.
34. Pan laddai efe hwynt, hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore.
35. Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd.
36. Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'u genau, a dywedyd celwydd wrtho â'u tafod:
37. A'u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
38. Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
39. Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40. Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
41. Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42. Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43. Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a'i ryfeddodau ym maes Soan:
44. Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a'u ffrydiau, fel na allent yfed.
45. Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.
46. Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.
47. Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.
48. Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysg, a'u golud i'r mellt.
49. Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
50. Cymhwysodd ffordd i'w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i'r haint.
51. Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
52. Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a'u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
53. Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a'r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
54. Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i'r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
55. Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56. Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57. Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
58. Digiasant ef hefyd â'u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â'u cerfiedig ddelwau.
59. Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60. Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
61. Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydferthwch yn llaw y gelyn.
62. Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63. Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a'u morynion ni phriodwyd.
64. Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf; a'u gwragedd gweddwon nid wylasant.
65. Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
66. Ac efe a drawodd ei elynion o'r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
67. Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
68. Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
69. Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70. Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a'i cymerth o gorlannau y defaid:
71. Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72. Yntau a'u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.