Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66
  67. 67
  68. 68
  69. 69
  70. 70
  71. 71
  72. 72
  73. 73
  74. 74
  75. 75
  76. 76
  77. 77
  78. 78
  79. 79
  80. 80
  81. 81
  82. 82
  83. 83
  84. 84
  85. 85
  86. 86
  87. 87
  88. 88
  89. 89
  90. 90
  91. 91
  92. 92
  93. 93
  94. 94
  95. 95
  96. 96
  97. 97
  98. 98
  99. 99
  100. 100
  101. 101
  102. 102
  103. 103
  104. 104
  105. 105
  106. 106
  107. 107
  108. 108
  109. 109
  110. 110
  111. 111
  112. 112
  113. 113
  114. 114
  115. 115
  116. 116
  117. 117
  118. 118
  119. 119
  120. 120
  121. 121
  122. 122
  123. 123
  124. 124
  125. 125
  126. 126
  127. 127
  128. 128
  129. 129
  130. 130
  131. 131
  132. 132
  133. 133
  134. 134
  135. 135
  136. 136
  137. 137
  138. 138
  139. 139
  140. 140
  141. 141
  142. 142
  143. 143
  144. 144
  145. 145
  146. 146
  147. 147
  148. 148
  149. 149
  150. 150

Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 146 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd.

2. Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

3. Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.

4. Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i'w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5. Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw:

6. Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a'r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:

7. Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i'r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.

8. Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9. Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a'r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.

10. Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.