1. Paham, Dduw, y'n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2. Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.
3. Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.
4. Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.
5. Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed.
6. Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion.
7. Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.
8. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir.
9. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
10. Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
11. Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
12. Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
13. Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
14. Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.
15. Ti a holltaist y ffynnon a'r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
16. Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
17. Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
18. Cofia hyn, i'r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i'r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
19. Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.
20. Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.
21. Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a'r anghenus dy enw.
22. Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.
23. Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.