1. Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.
2. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
3. A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd?
4. Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
5. Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a'th folianna?
6. Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â'm dagrau.
7. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.
8. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain.
9. Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.
10. Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.