1. Llawer gwaith y'm cystuddiasant o'm hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
2. Llawer gwaith y'm cystuddiasant o'm hieuenctid: eto ni'm gorfuant.
3. Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
4. Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
5. Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.
6. Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith:
7. A'r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na'r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
8. Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.