1-3. Yng ngwlad Jwda y mae Duw’nAdnabyddus,Ac yn Israel enwog ywEi waith grymus.Yn Jerwsalem y trig,Ar Fryn Seion,Lle y malodd arfau digEi elynion.
4-6. Duw ofnadwy ydwyt ti.Rwyt yn gryfachNa’n mynyddoedd cadarn ni.Troist yn llegachY rhyfelwyr cryf i gyd,Dduw galluog,A syfrdanu yn dy lidFarch a marchog.
7-9. Pwy all sefyll ger dy fronPan wyt ddicllon?Ofnodd yr holl ddaear gronDy ddedfrydon,Pan, o’th nefoedd, codaist di,Dduw, i’w barnu,A gweld ei thrueiniaid hi,A’u gwaredu.
10-12. Fe’th folianna Edom oll,Hamath hithau.Telwch chwithau iddo eich hollAddunedau.Cans ofnadwy ydyw DuwYn ei nefoedd.Drylliwr tywysogion yw,A brenhinoedd.