SALM 133
Bendithion byw’n heddychlon
1-2. Mor dda ac mor ddymunol ywI bobl fyw’n heddychlon.Mae fel y dafnau ennaint pêrAr farf a choler Aaron.
3. Mae fel pan ddisgyn gwlith y wawrI lawr dros fynydd Seion,Lle rhoddodd Duw ei fendith ddrud,Sef bywyd byth i’w weision.