1-2. Pan adferodd Duw i SeionLwyddiant, roeddem lon ein calon.Llawn o chwerthin oedd ein genau;Bloeddio canu a wnâi’n tafodau.
3. A dywedai ein gelynion,“Gwnaeth Duw iddynt bethau mawrion”.Do, gwnaeth bethau mawrion inni.Llawenhau a wnawn am hynny.
4-5. Ein llwyddiannau, Arglwydd, adfer,Megis ffrydiau lle bu sychder.Boed i’r rhai sy’n hau mewn dagrauMewn gorfoledd fedi’r cnydau.
6. Boed i hwnnw sydd yn carioEi sach hadyd gan ochneidioGael dychwelyd mewn gorfoleddAg ysgubau trwm ddigonedd.