Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66
  67. 67
  68. 68
  69. 69
  70. 70
  71. 71
  72. 72
  73. 73
  74. 74
  75. 75
  76. 76
  77. 77
  78. 78
  79. 79
  80. 80
  81. 81
  82. 82
  83. 83
  84. 84
  85. 85
  86. 86
  87. 87
  88. 88
  89. 89
  90. 90
  91. 91
  92. 92
  93. 93
  94. 94
  95. 95
  96. 96
  97. 97
  98. 98
  99. 99
  100. 100
  101. 101
  102. 102
  103. 103
  104. 104
  105. 105
  106. 106
  107. 107
  108. 108
  109. 109
  110. 110
  111. 111
  112. 112
  113. 113
  114. 114
  115. 115
  116. 116
  117. 117
  118. 118
  119. 119
  120. 120
  121. 121
  122. 122
  123. 123
  124. 124
  125. 125
  126. 126
  127. 127
  128. 128
  129. 129
  130. 130
  131. 131
  132. 132
  133. 133
  134. 134
  135. 135
  136. 136
  137. 137
  138. 138
  139. 139
  140. 140
  141. 141
  142. 142
  143. 143
  144. 144
  145. 145
  146. 146
  147. 147
  148. 148
  149. 149
  150. 150

Hen Destament

Salmau 78 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 78

Gweithredoedd Duw mewn hanes

1-8. Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,Damhegion anhraethol eu gwerthA draethodd ein tadau gynt wrthymAm Dduw a’i weithredoedd a’i nerth.Rhoes arnom ddyletswydd i’w traethuI’n plant dros yr oesau a fydd,Rhag iddynt hwy fod fel eu tadau’nGenhedlaeth derfysglyd, ddi-ffydd.

9-18. Gorchfygwyd gwŷr Effraim am iddyntAnghofio’r cyfamod a wnaethYr Arglwydd â’u tadau, a’u hachubPan oeddynt yn Soan yn gaeth.Fe rannodd y môr, a’u dwyn trwyddo,A’u harwain â chwmwl a thân.Fe holltodd y creigiau’n ddŵr yfed,Ond heriol a chwantus eu cân:

19-31. “Gall ddwyn dŵr o’r graig, mae’n wir,” meddent,“Ond beth am ein bara a’n cig?A all hulio bwrdd yn yr anial?”Pan glywodd yr Arglwydd, bu ddig,A glawiodd y manna, bwyd engyl,A’r soflieir fel tywod ar draeth;Ond cododd ei ddig yn eu herbyn,A lladd y grymusaf a wnaeth.

32-39. Er hyn, fe ddaliasant i bechu,Ac felly fe’u cosbodd ef hwy.Pan drawai hwy, ceisient ef eto,Gan dwyllo a rhagrithio yn fwy.Sawl gwaith y maddeuodd ef iddyntEu trosedd, sawl gwaith trugarhau,Gan gofio mai chwa o wynt oeddynt,Meidrolion diffygiol a brau?

40-48. Mor fynych y gwrthryfelasantYn erbyn yr Arglwydd eu Duw,Heb gofio mai ef a’u gwaredoddO’r Aifft, ac a’u cadwodd yn fyw.Troes Afon yr Aifft yn ffrwd waedlyd,Daeth pryfed a llyffaint yn bla;Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,Daeth haint ar eu preiddiau a’u da.

49-62. Fe drawodd eu cyntafanedig,Ond arwain ei bobl i’w gwlad;Troes allan genhedloedd o’u blaenau,Ond profodd wrthryfel a brad.Digiasant ef â’u huchelfannau,A’u delwau cerfiedig i gyd.Am hyn, ymadawodd â Seilo,A’u lladd yng nghynddaredd ei lid.

63-68a. Fe ysodd y tân eu gwŷr ifainc,Fe syrthiodd offeiriaid trwy’r cledd;Ni allai eu gweddwon alaru;Ac yna, fel milwr llawn medd,Fe gododd yr Arglwydd o’i drymgwsg,A tharo’i elynion bob un.Gwrthododd lwyth Effraim, a dewisLlwyth Jwda yn bobl iddo’i hun.

68b-72. Troes o babell Joseff, a gosodAr ben Mynydd Seion ei gaer,Sydd gyfuwch â’r nefoedd, a’i seiliau’nDragywydd, fel seiliau y ddaer.Dewisodd, yn was iddo, Ddafydd,A fu’n fugail defaid di-fraw,A’i roi i fugeilio’i bobl, Israel,A’u harwain yn fedrus â’i law.