3. Pa hyd yr ymosodwch nes bod dynFel pe bai’n dadfeilio ynddo ef ei hun,
4. Twyllo a chynllwynio i’w iselhau o hyd,Bendith yn eich genau, melltith yn eich bryd?
1-2. Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6. Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
7. Mae fy anrhydedd yn dibynnu ar Dduw;Amddiffynfa imi, fy nghadernid yw.
8. Bobl, ymddiriedwch ynddo ef o hyd;Dewch â’ch cwynion ato; ef yw’ch noddfa glyd.
1-2. Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6. Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
9. Nid yw dynolryw’n ddim ond anadl frau;Nid yw teulu dyn ond rhith nad yw’n parhau.Pan roir hwy mewn clorian, codi a wnânt yn chwim,Nid oes pwysau iddynt, maent yn llai na dim.
1-2. Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6. Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
10. Na rowch eich ffydd yn ofer bethau’r byd;Os cynydda cyfoeth, na rowch arno’ch bryd.
11. Nid oes neb pwerus, neb ond Duw ei hun,
12. Ac wrth ei weithredoedd y mae’n talu i ddyn.
1-2. Ynot, fy Nuw, yr ymddiriedaf fi;
5-6. Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.