Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66
  67. 67
  68. 68
  69. 69
  70. 70
  71. 71
  72. 72
  73. 73
  74. 74
  75. 75
  76. 76
  77. 77
  78. 78
  79. 79
  80. 80
  81. 81
  82. 82
  83. 83
  84. 84
  85. 85
  86. 86
  87. 87
  88. 88
  89. 89
  90. 90
  91. 91
  92. 92
  93. 93
  94. 94
  95. 95
  96. 96
  97. 97
  98. 98
  99. 99
  100. 100
  101. 101
  102. 102
  103. 103
  104. 104
  105. 105
  106. 106
  107. 107
  108. 108
  109. 109
  110. 110
  111. 111
  112. 112
  113. 113
  114. 114
  115. 115
  116. 116
  117. 117
  118. 118
  119. 119
  120. 120
  121. 121
  122. 122
  123. 123
  124. 124
  125. 125
  126. 126
  127. 127
  128. 128
  129. 129
  130. 130
  131. 131
  132. 132
  133. 133
  134. 134
  135. 135
  136. 136
  137. 137
  138. 138
  139. 139
  140. 140
  141. 141
  142. 142
  143. 143
  144. 144
  145. 145
  146. 146
  147. 147
  148. 148
  149. 149
  150. 150

Hen Destament

Salmau 44 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 44

Cwyn cenedl orchfygedig

1-2. Fe glywsom gan ein tadau,O Arglwydd, am y gwaithA wnaethost yn eu dyddiauDros y blynyddoedd maith.Fe droist genhedloedd allan,Ond eto’u plannu hwy.Difethaist bobloedd lawer,Ond llwyddo’n tadau’n fwy.

3-4a. Oherwydd nid â’u cleddyfY cawsant hwy y tir,Ac nid â’u braich y cawsantY fuddugoliaeth wir,Ond trwy nerth dy ddeheulawA llewyrch d’wyneb di,Am dy fod yn eu hoffi,Fy Nuw a’m brenin i.

4b-7. Ti sy’n rhoi buddugoliaethI Jacob, trwot tiY sathrwn a darostwngEin holl elynion ni.Nid ymddiriedaf bellachMewn cleddau na bwâu,Cans ti a gywilyddiaistY rhai sy’n ein casáu.

8-10. Yn Nuw y bu ein hymffrost.Clodforwn d’enw mawr;Ond yr wyt wedi’n gwrthod,Ac nid ei di yn awrI ymladd gyda’n byddin,Ond gwnei i ni lesgáu,Ac fe’n hysbeilir bellachGan rai sy’n ein casáu.

11-14. Fe’n lleddaist megis defaid,A’n gwasgar ledled byd.Fe’n gwerthaist ni heb elw,A’n gwneud ni’n warth i gyd,Yn destun gwawd a dirmygPob cenedl is y nen.Fe’n gwnaethost yn ddihareb,A’r bobl yn ysgwyd pen.

15-16. Fe’m cuddiwyd mewn cywilyddA gwarth oherwydd senY gelyn a’r dialyddYn seinio yn fy mhen.A hyn i gyd ddaeth arnomEr nad anghofiwn niMohonot, na bradychuDy lân gyfamod di.

17-21. Ni throesom chwaith o’th lwybrauI beri iti’n awrEin sigo yn lle’r siacalauA’n cuddio â chaddug mawr.Ped anghofiasem d’enwA throi at dduw di-fydd,Fe fyddit ti yn gwybod.Does dim i ti yn gudd.

22-26. Ond er dy fwyn fe’n lleddirFel defaid drwy y dydd.Ymysgwyd, pam y cysgi,A’th wyneb teg ynghudd?I’r llwch yr ymostyngwn,Fe’n bwriwyd ni i’r llawr.O cod i’n cynorthwyo,Er mwyn dy gariad mawr.