1. Fe ddywedodd y rhai ynfyd,“Nid oes Duw”.Ffiaidd ywEu gweithredoedd bawlyd.
2. Gwyrodd Duw o’i nef i chwilioA oedd unAr ddi-hunA oedd yn ei geisio.
3. Ond mae pawb yn cyfeiliorni.Nid oes neb,Nac oes, neb,Sydd yn gwneud daioni.
4. Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.Oni byddCosb ryw ddyddAr y rhai drygionus?
5. Cywilyddier y dihirod.Arnynt dawOfn a brawAm i Dduw eu gwrthod.
6. Pan adferir i’r iselwael,Lwydd a budd,Mawr iawn fyddGorfoleddu Israel.