1. Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?
2. Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:
3. Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.
4. Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.
5. Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.
6. Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.
7. Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.
8. Y llygad a'm gwelodd, ni'm gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.
9. Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i'r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.
10. Ni ddychwel mwy i'w dŷ: a'i le nid edwyn ef mwy.
11. Gan hynny ni warafunaf i'm genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.
12. Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?
13. Pan ddywedwyf, Fy ngwely a'm cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan;
14. Yna y'm brawychi â breuddwydion, ac y'm dychryni â gweledigaethau:
15. Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na'm hoedl.
16. Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.
17. Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?
18. Ac ymweled ag ef bob bore, a'i brofi ar bob moment?
19. Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?
20. Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?
21. A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a'm ceisi yn fore, ond ni byddaf.