Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2. Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di‐nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?

3. Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?

4. Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?

5. Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.

6. Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.

7. Y mae efe yn taenu'r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi'r ddaear ar ddiddim.

8. Y mae efe yn rhwymo'r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.

9. Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.

10. Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.

11. Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.

12. Efe a ranna y môr â'i nerth; ac a dery falchder â'i ddoethineb.

13. Efe a addurnodd y nefoedd â'i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.

14. Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?