Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

2. A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd?

3. A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?

4. A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?

5. A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i'th lancesau?

6. A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?

7. A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?

8. Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.

9. Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?

10. Nid oes neb mor hyderus â'i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?

11. Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.

12. Ni chelaf ei aelodau ef, na'i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef.

13. Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â'i ffrwyn ddauddyblyg?

14. Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.

15. Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.

16. Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.

17. Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.

18. Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a'i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.

19. Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o'i enau ef.

20. Mwg a ddaw allan o'i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.

21. Ei anadl a wna i'r glo losgi, a fflam a ddaw allan o'i enau.

22. Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o'i flaen ef.

23. Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.

24. Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o'r maen isaf i felin.

25. Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt.

26. Cleddyf yr hwn a'i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na'r llurig.

27. Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.

28. Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

29. Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

30. Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

31. Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

32. Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.

33. Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.

34. Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.