Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,

2. Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch.

3. Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd.

4. Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda.

5. Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a Duw a ddug ymaith fy marn.

6. A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd.

7. Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr?

8. Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol.

9. Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw.

10. Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.

11. Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.

12. Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn.

13. Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?

14. Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a'i anadl ef;

15. Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i'r pridd.

16. Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.

17. A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?

18. A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?

19. Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.

20. Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a'r cadarn a symudir heb waith llaw.

21. Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.

22. Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.

23. Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw.

24. Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.

25. Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.

26. Efe a'u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:

27. Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o'i ffyrdd ef:

28. Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.

29. Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig:

30. Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.

31. Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;

32. Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.

33. Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a'i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.

34. Gwŷr call, dywedant i mi; a'r gŵr doeth, clywed fi.

35. Job a ddywedodd yn annoeth; a'i eiriau ydynt heb ddoethineb.

36. Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.

37. Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.