Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

2. Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.

3. Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.

4. Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.

5. Myfi a glywais â'm clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a'th welodd di.

6. Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.

7. Ac wedi dywedyd o'r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.

8. Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.

9. Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt. A'r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job.

10. Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a'r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.

11. Yna ei holl geraint, a'i holl garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.

12. Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na'i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.

13. Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.

14. Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc.

15. Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a'u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.

16. A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o'i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.

17. Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.