Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul.

2. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe â gilia fel cysgod, ac ni saif.

3. A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi?

4. Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.

5. Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt:

6. Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod.

7. Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.

8. Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd;

9. Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.

10. Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?

11. Fel y mae dyfroedd yn pallu o'r môr, a'r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu:

12. Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o'u cwsg.

13. O na chuddit fi yn y bedd! na'm cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a'm cofio!

14. Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.

15. Gelwi, a myfi a'th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.

16. Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?

17. Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.

18. Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddiflanna; a'r graig a symudir o'i lle.

19. Dyfroedd a dreuliant y cerrig; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear, ac yn gwneuthur i obaith dyn golli.

20. Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith: a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd.

21. Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd, ac nis gwybydd efe: a hwy a ostyngir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt:

22. Ond ei gnawd arno a ddoluria, a'i enaid ynddo a alara.