Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,

2. Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth.

3. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.

4. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.

5. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?

6. Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,

7. Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?

8. A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o'r groth?

9. Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,

10. Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,

11. Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.

12. A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i'r wawrddydd ei lle,

13. I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?

14. Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.

15. Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.

16. A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?

17. A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?

18. A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.

19. Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,

20. Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i'w dŷ ef?

21. A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?

22. A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,

23. Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?

24. Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?

25. Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,

26. I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?

27. I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?

28. A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?

29. O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?

30. Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd.

31. A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?

32. A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a'i feibion?

33. A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

34. A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

35. A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?

36. Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i'r galon?

37. Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.

38. Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?

39. A elli di hela ysglyfaeth i'r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,

40. Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?

41. Pwy a ddarpar i'r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.