1. Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,
2. Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf?
3. A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?
4. Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd;
5. Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog;
6. Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.
7. Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.
8. Oblegid gofyn, atolwg, i'r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt:
9. (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:)
10. Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o'u calon?
11. A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr?
12. Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn.
13. Felly y mae llwybrau pawb a'r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr:
14. Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef.
15. Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.
16. Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan.
17. Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.
18. Os diwreiddia efe ef allan o'i le, efe a'i gwad ef, gan ddywedyd, Ni'th welais.
19. Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o'r ddaear y blagura eraill.
20. Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus;
21. Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a'th wefusau â gorfoledd.
22. A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.