1. A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd,
2. Y mae Duw yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a'r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid;
3. Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau;
4. Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd, ac ni thraetha fy nhafod dwyll.
5. Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.
6. Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw.
7. Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a'r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.
8. Canys pa obaith sydd i'r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan?
9. A wrendy Duw ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno?
10. A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar Dduw bob amser?
11. Myfi a'ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda'r Hollalluog.
12. Wele, chwychwi oll a'i gwelsoch; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?
13. Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw; ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog.
14. Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i'r cleddyf: a'i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.
15. Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a'i wragedd gweddwon nid wylant.
16. Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai;
17. Efe a'i darpara, ond y cyfiawn a'i gwisg: a'r diniwed a gyfranna yr arian.
18. Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr.
19. Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw.
20. Dychryniadau a'i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a'i lladrata ef liw nos.
21. Y dwyreinwynt a'i cymer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; ac a'i teifl ef fel corwynt allan o'i le.
22. Canys Duw a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef.
23. Curant eu dwylo arno, ac a'i hysiant allan o'i le.