Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.

2. Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.

3. O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau; a'm gwefusau a adroddant wybodaeth bur.

4. Ysbryd Duw a'm gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a'm bywiocaodd i.

5. Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o'm blaen i.

6. Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o'r clai y torrwyd finnau.

7. Wele, ni'th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.

8. Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion:

9. Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof.

10. Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo.

11. Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau.

12. Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a'th atebaf, mai mwy ydyw Duw na dyn.

13. Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o'i weithredoedd.

14. Canys y mae Duw yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.

15. Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;

16. Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt:

17. I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.

18. Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a'i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.

19. Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled:

20. Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a'i enaid fwyd blasus.

21. Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o'r blaen.

22. Nesáu y mae ei enaid i'r bedd, a'i fywyd i'r dinistrwyr.

23. Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:

24. Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i'r clawdd: myfi a gefais iawn.

25. Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid.

26. Efe a weddïa ar Dduw, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.

27. Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;

28. Efe a wared ei enaid ef rhag myned i'r clawdd, a'i fywyd a wêl oleuni.

29. Wele, hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn,

30. I ddwyn ei enaid ef o'r pwll, i'w oleuo â goleuni y rhai byw.

31. Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.

32. Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di.

33. Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.