1. Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,
2. Ai dysgeidiaeth yw ymryson â'r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.
3. A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,
4. Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.
5. Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.
6. A'r Arglwydd a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,
7. Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.
8. A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i'th gyfiawnhau dy hun?
9. A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â'th lais fel yntau?
10. Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.
11. Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.
12. Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.
13. Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.
14. Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.
15. Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.
16. Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a'i nerth ym mogel ei fol.
17. Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.
18. Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.
19. Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a'i gwnaeth a all beri i'w gleddyf nesáu ato ef.
20. Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.
21. Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.
22. Coed cysgodfawr a'i gorchuddiant â'u cysgod: helyg yr afon a'i hamgylchant.
23. Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe'r Iorddonen i'w safn.
24. A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?