Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a'i clywodd ac a'i deallodd.

2. Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau.

3. Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw.

4. Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.

5. O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb.

6. Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.

7. A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?

8. A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros Dduw?

9. Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn?

10. Gan geryddu efe a'ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel.

11. Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?

12. Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a'ch cyrff i gyrff o glai.

13. Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo.

14. Paham y cymeraf fy nghnawd â'm dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?

15. Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.

16. Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.

17. Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â'ch clustiau.

18. Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y'm cyfiawnheir.

19. Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.

20. Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.

21. Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi.

22. Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi.

23. Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a'm pechod.

24. Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti?

25. A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych?

26. Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid.

27. Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed.

28. Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.