1. Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd,
2. O na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi;
3. Pan wnâi efe i'w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;
4. Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell;
5. Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a'm plant o'm hamgylch;
6. Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!
7. Pan awn i allan i'r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,
8. Llanciau a'm gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.
9. Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.
10. Pendefigion a dawent â sôn, a'u tafod a lynai wrth daflod eu genau.
11. Pan y'm clywai clust, hi a'm bendithiai; a phan y'm gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:
12. Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
13. Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
14. Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a'm barn fyddai fel mantell a choron.
15. Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff.
16. Tad oeddwn i'r anghenog; a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.
17. Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o'i ddannedd ef.
18. Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.
19. Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a'r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.
20. Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a'm bwa a adnewyddai yn fy llaw.
21. Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor.
22. Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a'm hymadrodd a ddiferai arnynt hwy.
23. A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law.
24. Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.
25. Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.