1. Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,
2. Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.
3. Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.
4. Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,
5. Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?
6. Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i'r nefoedd, a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd y cymylau;
7. Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?
8. Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.
9. Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono.
10. Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.
11. Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.
12. Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;
13. Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:
14. Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o'i fewn ef.
15. Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tyn allan o'i fol ef.
16. Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef.
17. Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
18. Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.
19. Am iddo ddryllio, a gado'r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;
20. Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o'r hyn a ddymunodd.
21. Ni bydd gweddill o'i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.
22. Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.
23. Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a'i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.
24. Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a'r bwa dur a'i trywana ef.
25. Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corff, a gloywlafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno.
26. Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a'i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.
27. Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a'r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.
28. Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.
29. Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a'r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.