Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.

2. A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,

3. Darfydded am y dydd y'm ganwyd ynddo, a'r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.

4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.

5. Tywyllwch a chysgod marwolaeth a'i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a'i dychryno.

6. Y nos honno, tywyllwch a'i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.

7. Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.

8. A'r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a'i melltithio hi.

9. A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:

10. Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.

11. Paham na bûm farw o'r bru? na threngais pan ddeuthum allan o'r groth?

12. Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?

13. Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.

14. Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;

15. Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;

16. Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.

17. Yno yr annuwiolion a beidiant â'u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.

18. Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd.

19. Bychan a mawr sydd yno; a'r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.

20. Paham y rhoddir goleuni i'r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i'r gofidus ei enaid?

21. Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?

22. Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?

23. Paham y rhoddir goleuni i'r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?

24. Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a'm rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.

25. Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

26. Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.