Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid.

2. I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy.

3. Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i'r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt:

4. Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.

5. Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;)

6. I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.

7. Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.

8. Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na'r ddaear oeddynt.

9. Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.

10. Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.

11. Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a'm cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.

12. Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.

13. Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.

14. Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.

15. Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a'm hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl.

16. Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.

17. Y nos y tyllir fy esgyrn o'm mewn: a'm gïau nid ydynt yn gorffwys.

18. Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a'm hamgylcha fel coler fy mhais.

19. Efe a'm taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw.

20. Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf.

21. Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law.

22. Yr wyt yn fy nyrchafu i'r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd.

23. Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.

24. Diau nad estyn ef law i'r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef.

25. Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog?

26. Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth.

27. Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a'm rhagflaenasant.

28. Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa.

29. Yr ydwyf yn frawd i'r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys.

30. Fy nghroen a dduodd amdanaf, a'm hesgyrn a losgasant gan wres.

31. Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a'm horgan fel llais rhai yn wylo.