1. Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,
2. Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw?
3. Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.
4. Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?
5. Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.
6. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o'i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.
7. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.
8. Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.
9. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.
10. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.
11. Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.
12. Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a'i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
13. Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.
14. Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
15. I'r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â'm barnwr.
16. Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.
17. Canys efe a'm dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.
18. Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a'm lleinw â chwerwder.
19. Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?
20. Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a'm barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a'm barn yn gildyn.
21. Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.
22. Dyma un peth, am hynny mi a'i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a'r annuwiol.
23. Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.
24. Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?
25. A'm dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.
26. Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth.
27. Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:
28. Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na'm berni yn wirion.
29. Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?
30. Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;
31. Eto ti a'm trochi yn y pwll; a'm dillad a'm ffieiddiant.
32. Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.
33. Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.
34. Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:
35. Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.