1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2. O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!
3. Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.
4. Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i'm herbyn.
5. A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?
6. A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?
7. Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.
8. O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!
9. Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a'm torri ymaith.
10. Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.
11. Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?
12. Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?
13. Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?
14. I'r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.
15. Fy mrodyr a'm twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;
16. Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:
17. Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o'u lle.
18. Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.
19. Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.
20. Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.
21. Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.
22. A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O'ch golud rhoddwch roddion drosof fi?
23. Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?
24. Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.
25. Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?
26. Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?
27. Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i'ch cyfaill.
28. Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.
29. Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.
30. A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?