1. A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi?
2. A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant?
3. Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â'u gofid.
4. Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy.
5. Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt?
6. Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo, a'r diffeithwch yn drigfa iddo.
7. Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.
8. Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.
9. A gytuna yr unicorn i'th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?
10. A rwymi di unicorn â'i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?
11. A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?
12. A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i'th lawr dyrnu di?
13. A roddaist ti adenydd hyfryd i'r peunod? neu adenydd a phlu i'r estrys?
14. Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a'u cynhesa yn y llwch;
15. Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.
16. Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;
17. Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.
18. Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a'i farchog.
19. A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?
20. A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef.
21. Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau.
22. Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.
23. Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a'r darian.
24. Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr utgorn yw.
25. Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a'r bloeddio.
26. Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua'r deau?
27. Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel?
28. Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a'r lle cadarn?
29. Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell.
30. Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.