1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2. Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y'm drylliwch â geiriau?
3. Dengwaith bellach y'm gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i'm herbyn.
4. Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd.
5. Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i'm herbyn:
6. Gwybyddwch yn awr mai Duw a'm dymchwelodd i, ac a'm hamgylchodd â'i rwyd.
7. Wele, llefaf rhag trawster, ond ni'm hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.
8. Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.
9. Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.
10. Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.
11. Gwnaeth hefyd i'w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a'm cyfrifodd iddo fel un o'i elynion.
12. Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.
13. Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a'r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.
14. Fy nghyfnesaf a ballasant, a'r rhai oedd o'm cydnabod a'm hanghofiasant.
15. Y rhai oedd yn trigo yn fy nhÅ·, a'm morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.
16. Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â'm genau.
17. Dieithr oedd fy anadl i'm gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o'm corff.
18. Plant hefyd a'm diystyrent: cyfodais, a dywedasant i'm herbyn.
19. Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a'r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.
20. Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.
21. Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi.
22. Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd?
23. O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!
24. O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!
25. Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.
26. Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha'r corff hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd:
27. Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a'm llygaid a'i gwelant, ac nid arall; er i'm harennau ddarfod ynof.
28. Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.
29. Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.