1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2. Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.
3. Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?
4. Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a'i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.
5. Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â'i draed.
6. Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.
7. Ond gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.
8. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a'th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.
9. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn?
10. Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.
11. Onid y glust a farna ymadroddion? a'r genau a archwaetha ei fwyd?
12. Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.
13. Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.
14. Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.
15. Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a'u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.
16. Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a'r twyllodrus.
17. Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.
18. Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.
19. Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn.
20. Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen.
21. Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion.
22. Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni.
23. Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a'u dwg hwynt i gyfyngdra.
24. Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
25. Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.