1. Diau fod gwythen i'r arian; a lle i'r aur, lle y coethant ef.
2. Haearn a dynnir allan o'r pridd; ac o'r garreg y toddir pres.
3. Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.
4. Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.
5. Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.
6. Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.
7. Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:
8. Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.
9. Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.
10. Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.
11. Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.
12. Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?
13. Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.
14. Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.
15. Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.
16. Ni chyffelybir hi i'r aur o Offir; nac i'r onics gwerthfawr, nac i'r saffir.
17. Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.
18. Ni chofir y cwrel, na'r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.
19. Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.
20. Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?
21. Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.
22. Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â'n clustiau sôn amdani hi.
23. Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.
24. Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;
25. I wneuthur pwys i'r gwynt; ac efe a bwysa'r dyfroedd wrth fesur.
26. Pan wnaeth efe ddeddf i'r glaw, a ffordd i fellt y taranau:
27. Yna efe a'i gwelodd hi, ac a'i mynegodd hi; efe a'i paratôdd hi, a hefyd efe a'i chwiliodd hi allan.
28. Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.