Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2. Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

3. Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

4. Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

5. A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

6. Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

7. Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o'th law di.

8. Dy ddwylo di a'm gweithiasant, ac a'm cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

9. Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn?

10. Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?

11. Ti a'm gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'm diffynnaist i ag esgyrn ac â giau.

12. Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a'th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

13. A'r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

14. Os pechaf, ti a'm gwyli, ac ni'm glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15. Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

16. Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

17. Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i'm herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i'm herbyn.

18. Paham gan hynny y dygaist fi allan o'r groth? O na buaswn farw, ac na'm gwelsai llygad!

19. Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o'r bru i'r bedd.

20. Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;

21. Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;

22. Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.