1. Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.
2. Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.
3. Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:
4. Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,
5. Deuwch, a bwytewch o'm bara, ac yfwch o'r gwin a gymysgais.
6. Ymadewch â'r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.
7. Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a'r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.
8. Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a'th gâr di.
9. Dyro addysg i'r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.
10. Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall.
11. Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes.
12. Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a'i dygi.
13. Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim:
14. Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,
15. I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:
16. Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,
17. Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd.
18. Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.