Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.

2. Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a'i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.

3. Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.

4. Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.

5. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a'i tyn allan.

6. Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?

7. Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.

8. Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â'i lygaid bob drwg.

9. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?

10. Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o'r ddau.

11. Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.

12. Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o'r ddau.

13. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.

14. Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o'r neilltu, efe a ymffrostia.

15. Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.

16. Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.

17. Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o'r diwedd ei enau a lenwir â graean.

18. Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.

19. Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â'r hwn a wenieithio â'i wefusau.

20. Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.

21. Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.

22. Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a'th achub.

23. Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.

24. Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o'i ffordd ei hun?

25. Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.

26. Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.

27. Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.

28. Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a'i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.

29. Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.

30. Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.