1. Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:
2. Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a'u gwefusau a draetha flinder.
3. Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:
4. A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.
5. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.
6. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.
7. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.
8. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.
9. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.
10. Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.
11. Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â'r neb sydd barod i'w lladd?
12. Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?
13. Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a'r dil mêl, canys melys yw i'th enau.
14. Felly y bydd gwybodaeth doethineb i'th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a'th obaith ni phalla.
15. Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.
16. Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni.
17. Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:
18. Rhag i'r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.
19. Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:
20. Canys ni bydd gwobr i'r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.
21. Fy mab, ofna yr Arglwydd a'r brenin, ac nac ymyrr â'r rhai anwastad:
22. Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?
23. Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn.
24. Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a'i melltithiant ef, cenhedloedd a'i ffieiddiant ef:
25. Ond i'r neb a'i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.
26. Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.
27. Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.
28. Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â'th wefusau.
29. Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i'r gŵr yn ôl ei weithred.
30. Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;
31. Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.
32. Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.
33. Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:
34. Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a'th angen fel gŵr arfog.