1. Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.
2. Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.
3. Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a'r daionus.
4. Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.
5. Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.
6. Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.
7. Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.
8. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.
9. Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.
10. Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a'r neb a gasao gerydd, a fydd marw.
11. Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd: pa faint mwy, calonnau plant dynion?
12. Ni châr y gwatwarwr mo'r neb a'i ceryddo; ac nid â at y doethion.
13. Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd.
14. Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.
15. Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen.
16. Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd, na thrysor mawr a thrallod gydag ef.
17. Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.
18. Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.
19. Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad.
20. Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam.
21. Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn.
22. Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.
23. Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!
24. Ffordd y bywyd sydd fry i'r synhwyrol, i ochel uffern obry.
25. Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.
26. Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.
27. Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.
28. Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.
29. Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.
30. Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn.
31. Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.
32. Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.
33. Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.