Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.

2. Y tlawd a'r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.

3. Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

4. Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr Arglwydd, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd.

5. Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.

6. Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.

7. Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i'r gŵr a roddo fenthyg.

8. Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.

9. Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o'i fara i'r tlawd.

10. Bwrw allan y gwatwarwr, a'r gynnen a â allan; ie, yr ymryson a'r gwarth a dderfydd.

11. Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.

12. Llygaid yr Arglwydd a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.

13. Medd y diog, Y mae llew allan; fo'm lleddir yng nghanol yr heolydd.

14. Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yno.

15. Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a'i gyr ymhell oddi wrtho.

16. Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a'r neb a roddo i'r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.

17. Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.

18. Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.

19. Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.

20. Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,

21. I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i'r neb a anfonant atat?

22. Nac ysbeilia mo'r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.

23. Canys yr Arglwydd a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a'u gorthrymo hwynt.

24. Na fydd gydymaith i'r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:

25. Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i'th enaid.

26. Na fydd un o'r rhai a roddant eu dwylo, o'r rhai a fachnïant am ddyled.

27. Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat?

28. Na symud mo'r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.

29. A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.