1. Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;
2. I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;
3. I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;
4. I roi callineb i'r angall, ac i'r bachgen wybodaeth a synnwyr.
5. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a'r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
6. I ddeall dihareb, a'i deongl; geiriau y doethion, a'u damhegion.
7. Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
8. Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:
9. Canys cynnydd gras a fyddant hwy i'th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10. Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna.
11. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
12. Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i'r pydew:
13. Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:
14. Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:
15. Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.
16. Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.
17. Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.
18. Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.
19. Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
20. Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:
21. Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,
22. Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
23. Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
24. Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
25. Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o'm cerydd:
26. Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;
27. Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:
28. Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y'm ceisiant, ond ni'm cânt:
29. Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant:
30. Ni chymerent ddim o'm cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.
31. Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a'u llenwi â'u cynghorion eu hunain.
32. Canys esmwythdra y rhai angall a'u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a'u difetha.
33. Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.