1. Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?
2. Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.
3. Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:
4. Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.
5. Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.
6. Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.
7. Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.
8. Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.
9. Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn uniawn i'r rhai a gafodd wybodaeth.
10. Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig.
11. Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.
12. Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.
13. Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gas gennyf fi.
14. Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.
15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna'r penaethiaid gyfiawnder.
16. Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.
17. Y sawl a'm carant i, a garaf finnau; a'r sawl a'm ceisiant yn fore, a'm cânt.
18. Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.
19. Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a'm cynnyrch sydd well na'r arian detholedig.
20. Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:
21. I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.
22. Yr Arglwydd a'm meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.
23. Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.
24. Pryd nad oedd dyfnder y'm cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.
25. Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y'm cenhedlwyd:
26. Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na'r meysydd, nac uchder llwch y byd.
27. Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:
28. Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder:
29. Pan roddes efe ei ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:
30. Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;
31. Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a'm hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
32. Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.
33. Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.
34. Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.
35. Canys y neb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd.
36. Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.