1. Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:
2. Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.
3. Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
4. Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.
5. Gobeithia yn yr Arglwydd â'th holl galon; ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun.
6. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.
8. Hynny a fydd iechyd i'th fogail, a mêr i'th esgyrn.
9. Anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth:
10. Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a'th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
11. Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;
12. Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a'i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
13. Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r dyn a ddygo ddeall allan.
14. Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.
15. Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.
16. Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.
17. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch.
18. Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.
19. Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.
20. Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
21. Fy mab, na ollwng hwynt allan o'th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.
22. Yna y byddant yn fywyd i'th enaid, ac yn ras i'th wddf.
23. Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a'th droed ni thramgwydda.
24. Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a'th gwsg fydd felys.
25. Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.
26. Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
27. Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.
28. Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.
29. Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
30. Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
31. Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o'i ffyrdd ef.
32. Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda'r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
33. Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
34. Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i'r gostyngedig.
35. Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.