1. Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.
2. Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
3. Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.
4. Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.
5. Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.
6. Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
7. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.
8. Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp.
9. Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd, a fydd hynod.
10. Y neb a amneidio â'i lygaid, a bair flinder: a'r ffôl ei wefusau a gwymp.
11. Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
12. Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.
13. Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.
14. Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.
15. Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.
16. Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.
17. Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.
18. A guddio gas â gwefusau celwyddog, a'r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.
19. Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.
20. Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.
21. Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.
22. Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.
23. Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb.
24. Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, Duw a'i rhydd.
25. Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth.
26. Megis finegr i'r dannedd, a mwg i'r llygaid, felly y bydd y diog i'r neb a'i gyrrant.
27. Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.
28. Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.
29. Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i'r perffaith: ond dinistr fydd i'r rhai a wnânt anwiredd.
30. Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.
31. Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a'r tafod cyndyn a dorrir ymaith.
32. Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.