Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.

2. Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.

3. Canys yr oeddwn yn fab i'm tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.

4. Efe a'm dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.

5. Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.

6. Nac ymâd â hi, a hi a'th geidw: câr hi, a hi a'th wared di.

7. Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â'th holl gyfoeth cais ddeall.

8. Dyrchafa di hi, a hithau a'th ddyrchafa di: hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

9. Hi a rydd ychwaneg o ras i'th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.

10. Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

11. Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.

12. Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi.

13. Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

14. Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

15. Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.

16. Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a'u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn.

17. Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.

18. Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.

19. Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

20. Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.

21. Na ad iddynt fyned ymaith o'th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.

22. Canys bywyd ydynt i'r neb a'u caffont, ac iechyd i'w holl gnawd.

23. Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.

24. Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.

25. Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o'th flaen.

26. Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.

27. Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.