1. Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.
2. Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o'r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.
3. Y tawddlestr sydd i'r arian, a'r ffwrn i'r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd.
4. Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a'r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.
5. Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a'r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.
6. Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.
7. Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.
8. Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.
9. Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.
10. Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.
11. Y dyn drwg sydd â'i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.
12. Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â'r ffôl yn ei ffolineb.
13. Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â'i dŷ ef.
14. Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.
15. Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau.
16. Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?
17. Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.
18. Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill.
19. Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a'r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed.
20. Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a'r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.
21. Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd.
22. Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.
23. Yr annuwiol a dderbyn rodd o'r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.
24. Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd.
25. Mab ffôl a bair ddicllonedd i'w dad, a chwerwder i'w fam.
26. Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.
27. Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd.
28. Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a'r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.