1. Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
2. Fel y parech i'th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;
3. Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;
4. Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;
5. Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw.
6. Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o'i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.
7. Y mae ganddo ynghadw i'r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i'r sawl a rodiant yn uniawn.
8. Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.
9. Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10. Pan ddelo doethineb i mewn i'th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;
11. Yna cyngor a'th gynnal, a synnwyr a'th geidw:
12. I'th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;
13. Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;
14. Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;
15. Y rhai sydd â'u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:
16. I'th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;
17. Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw.
18. Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a'i llwybrau at y meirw.
19. Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.
20. Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.
21. Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a'r rhai perffaith a gânt aros ynddi.
22. Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a'r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.