1. Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.
2. Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a'r hwn sydd brysur ei draed a becha.
3. Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a'i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd.
4. Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.
5. Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.
6. Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i'r hael.
7. Holl frodyr y tlawd a'i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato.
8. A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.
9. Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir.
10. Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.
11. Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.
12. Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt.
13. Mab ffôl sydd orthrymder i'w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.
14. Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog.
15. Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna.
16. Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a'r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.
17. Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd; a'i rodd a dâl efe iddo drachefn.
18. Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i'w ddifetha.
19. Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a'i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.
20. Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.
21. Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif.
22. Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na'r gŵr celwyddog.
23. Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a'r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.
24. Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.
25. Taro watwarwr, a'r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.
26. Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr.
27. Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28. Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd.
29. Barn sydd barod i'r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.