1. Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a'i try hi lle y mynno.
2. Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau.
3. Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth.
4. Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.
5. Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.
6. Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.
7. Anrhaith yr annuwiol a'u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.
8. Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.
9. Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
10. Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef.
11. Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth.
12. Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.
13. Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.
14. Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.
15. Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.
16. Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.
17. Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a'r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.
18. Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a'r troseddwr dros yr uniawn.
19. Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon.
20. Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a'u llwnc hwynt.
21. Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.
22. Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.
23. Y neb a gadwo ei enau a'i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.
24. Y balch a'r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.
25. Deisyfiad y diog a'i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:
26. Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.
27. Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?
28. Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.
29. Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.
30. Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr Arglwydd.
31. Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd.